{"id":1176,"date":"2012-02-10T17:57:57","date_gmt":"2012-02-10T16:57:57","guid":{"rendered":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/?p=1176"},"modified":"2012-02-10T17:57:57","modified_gmt":"2012-02-10T16:57:57","slug":"tro-yn-llydaw","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/2012\/02\/tro-yn-llydaw\/","title":{"rendered":"Tro yn Llydaw"},"content":{"rendered":"<p>For my Welsh speaking friends, the following article appeared recently in &#8220;Y Goleuad&#8221;, the paper of The Presbyterian Church in Wales, but also, I am told, in the papers of the Welsh Baptists and Independents. I wrote a small section about the work in Guingamp, and my Father in law complemented it. Watch out for another article to appear in the next issue of &#8220;Y cylchgrawn&#8221; (an interview)<\/p>\n<blockquote>\n<p style=\"text-align: center;\"><strong>Tro yn Llydaw<\/strong><br \/>\n<strong>gan y Parchg Ioan Davies<\/strong><\/p>\n<p>Nid yn aml y meddylia pobl heddiw am Ffrainc na Llydaw fel maes cenhadol. Wedi&#8217;r cyfan, onid oes yna eglwysi gorwych bron ym mhob tref a phentref, a gellir gweld gorymdeithiau lliwgar, poblogaidd ar eu gwyliau arbennig? Digon gwir, ond wedi dweud hynny, prin iawn yw&#8217;r bobl sy&#8217;n mynychu oedfaon y Sul gydag unrhyw gysondeb, heb s\u00c3\u00b4n am bobl \u00c3\u00a2 phrofiad achubol o&#8217;r Efengyl.<\/p>\n<p><!--more-->Mae&#8217;r hyn a ddywed O. M. Edwards yn ei ragymadrodd i \u00e2\u20ac\u0153Tro yn Llydaw\u00e2\u20ac\u009d yn ddiddorol: \u00e2\u20ac\u0153Yr un bobl yw&#8217;r Llydawiaid a&#8217;r Cymry a&#8217;r un yw eu hiaith. Ond wedi byw ychydig wythnosau ymysg y Llydawiaid a rhoi tro o amgylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i&#8217;r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn \u00e2\u20ac\u201c ar eu gwynebau, ar eu harferon, ar eu hiaith.&#8221; Mae&#8217;n mynd ymlaen i esbonio: \u00e2\u20ac\u0153Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw &#8230; nid oes yno yr un seiat i \u00e2\u20ac\u02dcddinistrio difyr-gampau diniwed y werin ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur\u00e2\u20ac\u2122 ond y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynu ato.\u00e2\u20ac\u009d Rheswm arall am y gwahaniaeth? \u00e2\u20ac\u0153Cymru heb ei Hysgol Sul yw Llydaw. Oherwydd hyn maen nhw&#8217;n ofergoelus ungred, yn byw mewn ofn yr offeiriad ac yn wasaidd gaeth i&#8217;w huchelwyr &#8230; nid oes ganddynt gred yng ngwerth enaid i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru &#8230; Mae anffyddiaeth andwyol Ffrainc yn prysur dreiddio i&#8217;w chyrrau eithaf. \u00e2\u20ac\u0153 Ychwanega: \u00e2\u20ac\u0153Os na chyfrynga Rhagluniaeth yn fuan, ni fydd y Llyd\u00c3\u00a4wr ond Ffrancwr, heb awen, heb athrylith, heb Dduw yn y byd.&#8221;<\/p>\n<p>Beth bynnag feddyliwn am farn neu ragfarn O. M. Edwards (ac y mae pethau wedi newid llawer yn Llydaw ac yng Nghymru ers ei ddyddiau ef), mae&#8217;n hanesyddol gywir i ddweud na chafodd y Diwygiad Protestannaidd fawr o ddylanwad ar Ffrainc. Ar waethaf ymdrechion glew i efengyleiddio Llydaw gan y Bedyddwyr mor gynnar \u00c3\u00a2 1821, methiant a fu yr ymgais honno. Galwyd sylw\u00e2\u20ac\u2122r Methodistiaid Calfinaidd at angen y wlad gan un o&#8217;r enw David Jones yn 1824, a chafwyd ymgais arall yn 1834 gan y Bedyddwyr trwy John Jenkins. Cyfieithwyd y Testament Newydd i&#8217;r Llydaweg, a dosbarthwyd nifer mawr, ond pasiwyd deddfau a&#8217;i gwn\u00c3\u00a2i yn anghyfreithlon i genhadu yn Llydaw. Er hynny, parhawyd i ymdrechu hyd ddechrau&#8217;r Ugeinfed Ganrif.<\/p>\n<p>Enw a gysylltir \u00c3\u00a2 gwaith yr Efengyl yn Llydaw yw Caradoc Jones, brodor o Rosllannerchrugog ac aelod o eglwys y Bedyddwyr Albanaidd. Wedi teimlo galwad i&#8217;r weinidogaeth, derbyniwyd ef yn fyfyriwr yng Ngholeg Spurgeon. Tra roedd gartref dros wyliau\u00e2\u20ac\u2122r Nadolig, daeth o dan ddylanwad y Diwygiad oedd wedi torri allan ychydig wythnosau\u00e2\u20ac\u2122n gynharach yn Rhos, ac ar ddiwedd ei gwrs colegol ordeiniwyd ef yn weinidog ar ddwy eglwys yng Nghaerdydd. Tyfodd y gwaith yno&#8217;n rhyfeddol. Fodd bynnag, roedd ei fryd o&#8217;r cychwyn ar fynd allan i Lydaw, ac yn 1920 dechreuodd pennod arall ffrwythlon iawn yn ei hanes, a llwyddodd i sefydlu nifer o eglwysi Protestannaidd yng ngogledd Llydaw. (Gweler Caradoc Jones A Forgotten Missionary gan Noel Gibbard). Erbyn hyn mae eglwysi Protestannaidd Efengylaidd yn fwy cyffredin.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r eglwysi hyn yw Eglwys Efengylaidd GUINGAMP, tref a saif oddeutu gwaith awr o deithio o Roscoff i gyfeiriad St. Brieuc. Sefydlwyd yr eglwys yn y 7Oau gan Ffrancwr a&#8217;i deulu. Yn ddiweddarach ymunodd teulu arall. Araf iawn fu&#8217;r cynnydd dros y blynyddoedd ac mae&#8217;r eglwys wedi wynebu llawer siom, ond erbyn hyn mae\u00e2\u20ac\u2122n berchen ar ei hadeilad ei hunain ac mae ganddi weinidog llawn amser, Ffrancwr, \u00c3\u00a2&#8217;i wraig yn genhades o Dde Cymru gyda UFM (Unevange!ized Fields Mission). Ar Sul da, ceir rhwng 20 a 25 yn y gwasanaeth.<\/p>\n<p>Ym mis Awst 2010 ymunodd Emmanuel ac Esther Durand \u00c3\u00a2&#8217;r gwaith. Maent hwythau hefyd yn gweithio dan nawdd UFM yn Guingamp. Tref fechan o ryw 8,000 o bobl yw Guingamp, ac yn gwasanaethu poblogaeth o 23,000 yn y wlad gyfagos. Nid oes eglwys efengylaidd arall yn agos ati, ac eithrio eglwys efengylaidd y Sipsiwn. Mae Esther yn Gymraes, yn ferch i\u00e2\u20ac\u2122r Parchg a Mrs loan Davies, Y Bala, ac mae ganddi hi a\u00e2\u20ac\u2122i gwr dri o hogiau. Mae gwaith Emmanuel yn cynnwys pregethu i adeiladu&#8217;r aelodau yn y Ffydd, a chyrraedd allan trwy fynd i&#8217;r gwahanol farchnadoedd bob wythnos gyda stondin lenyddiaeth. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr cynhaliwyd cyrsiau ar gyfer pobl oedd eisiau dysgu mwy am y Ffydd Gristnogol. Daeth tua 13 bob wythnos, rhai o blith yr aelodau a rhai o&#8217;r tu allan. Am yn ail flwyddyn, gyda chefnogaeth cyfeillion yr achos sy&#8217;n medru rhywfaint o Ffrangeg, cynhelir cenhadaeth am bythefnos pryd y gwahoddir ffrindiau a chymdogion i gyfarfodydd plant, pobl ifanc a rhai mewn oed. Ond prin ar y cyfan yw&#8217;r ffrwyth amlwg. \u00e2\u20ac\u0153Y cynhaeaf yn wir sydd fawr.\u00e2\u20ac\u009d Os carech wybod mwy am y sefyllfa, gellwch gysylltu gyda Emmanuel ac Esther: erdurand@gmail.com<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>For my Welsh speaking friends, the following article appeared recently in &#8220;Y Goleuad&#8221;, the paper of The Presbyterian Church in Wales, but also, I am told, in the papers of the Welsh Baptists and Independents. I wrote a small section about the work in Guingamp, and my Father in law complemented it. Watch out for &hellip; <a href=\"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/2012\/02\/tro-yn-llydaw\/\" class=\"more-link\">Continue reading<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Tro yn Llydaw&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[19],"tags":[],"class_list":["post-1176","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-ministry"],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1176","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1176"}],"version-history":[{"count":0,"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1176\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1176"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1176"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.erdurand.com\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1176"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}